Y ddaear fud ro'i
meirw'n fyw,
A'r creigydd fry a holltai'n friw,
Wrth wel'd y Crëwr pur;
Yr haul ymguddiai wrth y loes,
Y lloer a'r sêr ai'n dywyll nos:
O! f'enaid, cofia'i gur.
Trywanwyd, do,
fy Mhrynwr rhad,
Nes daeth o'i galon ddŵr a gwaed,
Yn ffrwd fel afon bur,
Oedd ar y llawr
i'w wel'd yn llyn,
Yn frwd, ar ben Calfaria fryn:
O! f'enaid, cofia'i gur.
Mi glywa'i lef pan
chwerwa'i loes,
A'i irad gri ef ar y groes,
Am faddeu i mi'n wir;
Ei weddi troswyf, ai uwch nen,
A mi'n ei hoelio ar y pren:
O! f'enaid, cofia'i gur.
Dros f'enaid i bu'r addfwyn Oen,
Fel hyn, yn dioddef dirfawr boen,
I'm gwneyd yn rhydd yn wir:
'Roedd yn ei fryd orphenu'r gwaith
O eithaf tragwyddoldeb maith:
O! f'enaid, cofia'i gur.
William Williams 1717-91
Tonau [886D]: gwelir: Rhan I - O deffro tro fy enaid Ca'dd gario'r groes i ben y bryn Fy enaid nac anghofia groes O boed fy nghalon oll ar dân Rhow'd mantell goch am dan yr Oen Trywanwyd do fy Mhrynwr rhad Yn Eden cofiaf hynny byth |
The mute earth gave up
it's dead alive,
And the rocks above split apart,
On seeing the pure Creator;
The sun hid itself from the anguish,
The moon and the stars became dark night:
O my soul, remember his pain!
He was pierced, he was,
my gracious Redeemer,
Until from his heart came water and blood,
As a stream like a pure river,
That was on the ground
to be seen as a lake,
Ardently, on the summit of Calvary hill:
O my soul, remember his pain!
I hear his cry when
his anguish turns bitter,
And his sorrowful shout on the cross,
For forgiving me truly;
His prayer for me, going above the sky,
And I nailing him to the cross:
O my soul, remember his pain!
For my soul did the gentle Lamb,
Thus, suffer tremendous pain,
For me to be made free truly:
It was in his mind to finish the work
From the extremity of vast eternity:
O my soul, remember his pain.
tr. 2021 Richard B Gillion
|
|